Mae coronafeirws wedi newid y ffordd mae pawb yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, ac rydyn ni’n gweithio’n galed er mwyn i chi allu teithio mor ddiogel â phosib.
Mae’n rhaid i chi wisgo gorchudd wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddus oni bai eich bod wedi’ch eithrio.
Gwnewch gais am eich nodyn eithrio
Mae dwy ffordd o greu eich cerdyn eithrio:
- Llenwch ei'n ffurflen ar-lein - dyma'r ffordd gyflymaf i gael eich nodyn
- Ffoniwch ni ar 0300 303 4240
Bydd angen i chi roi rhywfaint o wybodaeth bersonol i ni er mwyn i ni allu creu eich cerdyn eithrio. Dim ond er mwyn creu ac anfon eich cerdyn atoch chi y byddwn ni’n defnyddio'r wybodaeth hon. Ni fyddwn yn cadw’r wybodaeth hon.
Gallwch greu neu gael eich cerdyn eithrio eich hun drwy ddilyn y camau syml hyn.
Cadarnhau eich bod yn gymwys
Cadarnhewch eich bod wedi eich eithrio drwy fwrw golwg ar restr eithriadau Llywodraeth Cymru Cliciwch yma i weld.
Ble alla i ddefnyddio'r nodyn?
Derbynnir ein nodyn eithrio ar holl wasanaethau TrC a'r mwyafrif o wasanaethau bysiau yng Nghymru.
Mae gan rai gweithredwyr bysiau eu cynllun eu hunain i'ch helpu chi i deithio'n hyderus. Cysylltwch â'ch gweithredwr lleol i wirio a ydyn nhw'n cymryd rhan yn y cynllun hwn ai peidio. Gallwch ddod o hyd i fanylion cyswllt eich gweithredwr lleol yma.